PHB 13
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Public Health (Wales) Bill
Ymateb gan: Cytûn
Response from: Cytûn

 

At:- Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ymateb gan Cytûn a CLAS i’r cais am dystiolaeth parthed
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

1.   Mae Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yn cynrychioli 14 o enwadau Cristnogol yng Nghymru, sydd rhyngddynt yn cynnal y mwyafrif o glerigion Cristnogol sydd yn gwasanaethu yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae CLAS (Churches’ Legislation Advisory Service: Elusen gofrestredig rhif 256303) yn gorff cyd-enwadol sy’n cynrychioli’r holl brif enwadau yn y Deyrnas Gyfunol a llawer o’r rhai llai o faint, ynghyd â’r Synagog Unedig, wrth ymwneud â’r llywodraeth parthed cyfreithiau a pholisïau seciwlar.

2.   Mae’r papur hwn yn ymwneud ag Adrannau 6 & 7 ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), fel y’i cyflwynwyd, sy’n ymestyn y diffiniad o ‘weithleoedd’ at ddibenion dynodi mangreoedd di-fwg. Rydym yn pryderu am effaith bosibl hyn ar glerigion a’u teuluoedd.

3.   Disgwylir i glerigion rhan fwyaf y prif enwadau, oherwydd natur eu swyddi, fyw mewn persondy neu fans. Ymhellach, o ran trethiant ar bethau megis costau teithio mae CThEM fel arfer yn pennu mai cartref y gweinidog yw’r “gweithle” yn hytrach na’r addoldy mae ef neu hi yn ei wasanaethu – yn bennaf am y gall fod gan un gweinidog ofal bugeiliol am fwy nag un eglwys. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw’r clerig yn gweithio o eiddo y mae ef/hi yn berchen arno’n bersonol yn hytrach nag o dŷ clerigol ym meddiant yr eglwys.

4.   Yn aml fe ddefynddir y persondy ar gyfer cyfarfodydd, cynghori bugeiliol personol, dosbarthiadau Beiblaidd, paratoi at briodasau, ac yn y blaen. Nid yw’n eglur i ni a yw hyn yn golygu bod y persondy yn “fangre” at ddibenion y diffiniad yng Nghymal 6(2)(b).

5    Mae gan y mwyafrif helaeth o bobl fan gwaith a chartref ar wahân. Nid yw clerigion yn gallu gwahaniaethu rhwng y ddau fel hyn, ac yn hynny o beth maent yn anarferol iawn. Mae rhai clerigion (a rhai aelodau o’u teuluoedd a phobl eraill sy’n byw gyda nhw) yn smygu tybaco ac yn defnyddio e-sigarennau; a rydym yn pryderu y gallai’r ddeddfwriaeth, fel y’i drafftiwyd, effeithio’n arbennig o galed ar y bobl hyn.

6.   Yn gyntaf, nid yw’n gwbl eglur i ni a yw’r diffiniad yn 6(2)(b) yn cynnwys (e.e.) plwyfolyn a wahoddir yn anffurfiol i gael coffi yn ystafell fyw y teulu yn hytrach nag yn stydi/swyddfa’r gweinidog. A yw’r ystafell fyw wedyn yn cael ei chwmpasu gan y ddeddfwriaeth? Neu a fyddai’n cael ei harbed gan gymal 7(3)?

7.   Yn ail, mae’r ddeddfwriaeth yn ymwneud ag e-sigarennau yn ogystal â thybaco. Fe allai peidio â chaniatáu i glerig neu aelod o’i deulu ddefnyddio e-sigarennau yn ei gartref ei hun filwrio yn erbyn symud o dybaco i ddyfais amgen llai niweidiol. Ai dyna fwriad Llywodraeth Cymru?

8.   Yn drydydd, dywed Cymal 6(5) fod mangre o’r fath “ond yn ddi-fwg pan y’i defnyddir fel man gwaith.” Mae’r addewidion a wneir gan glerigion wrth eu hordeinio yn holl-gynhwysol, yn cwmpasu’r bywyd cyfan. Nid oes ganddynt oriau gwaith gosodedig. Yn ôl y geiriad hwn, awgrymir bod angen i dai clerigion fod yn ddi-fwg drwy’r amser, gan y bydd y gweinidog “ar alwad” hyd yn oed pan yw’n mwynhau amser preifat gyda’i deulu.

9.   Rydym yn amau mai anfwriadol yw’r canlyniadau tybiedig hyn ar gyfer clerigion a’u teuluoedd, oherwydd nid ystyriwyd sefyllfa clerigion wrth ddrafftio’r ddeddf.

10. Yn olaf, rydym yn amau a fyddai gwahardd rhywun (neu aelod o deulu’r unigolyn hwnnw) rhag ysmygu na defnyddio e-sigarét yn ei gartref neu ei chartref ei hun yn gwbl gydnaws ag Erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (Yr hawl i barch tuag at fywyd preifat, bywyd teuluol a’r cartref). Mae Erthygl 8(2) yn caniatáu i awdurdod cyhoeddus ymyrryd â gweithredu’r hawl lle ei bod “… yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er lles diogelwch cenedlaethol, diogelwch y cyhoedd neu les economaidd y wlad, i atal anrhefn neu drosedd, neu i ddiogelu iechyd neu foesau, neu i ddiogelu hawliau a rhyddid eraill”. Cymerwn y byddai Llywodraeth Cymru yn dadlau mai “i ddiogelu iechyd” y cyflwynir y gwaharddiad hwn; rydym yn amau a yw’r raddfa hon o ymyrraeth “yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd”.

11. Byddem yn ddiolchgar pe gallech wrth ystyried y Bil ceisio eglurdeb parthed y mater hwn ac, os oes angen, yn cyflwyno argymhelliad priodol i’r Llywodraeth.

Manylion cyswllt:

·         Parch. Gethin Rhys, Cytûn, 58 Richmond Road, Caerdydd CF24 3AT.  XXXXXXXXXXXXXX
Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071

·         Frank Cranmer: Ysgrifennydd, Churches’ Legislation Advisory Service, Church House, Great Smith Street, London SW1P 3AZ: XXXXXXXXXXXXXXXXXXXX [gohebiaeth Saesneg yn unig, os gwelwch yn dda].

28ain Awst 2015.

Gellir cyhoeddi’r dystiolaeth hon yn gyfan.